OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1710 (Cy. 225) (C. 103)
TAI, CYMRU
LANDLORD A THENANT, cymru
Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dwyn i rym o ran Cymru, ar 1 Hydref 2015, adrannau 35 a 36 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (“y Ddeddf”). Mae’r adrannau hynny yn Rhan 2 (diwygio rheoleiddio) o’r Ddeddf yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954.
Drwy eu cychwyn, mae’r darpariaethau yn eithrio busnesau cartref rhag y diogelwch deiliadaeth a roddir i denantiaid mangreoedd sydd wedi eu meddiannu at ddibenion busnes. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i denantiaid gael caniatâd i ddefnyddio mangreoedd at ddibenion busnes mewn cytundeb tenantiaeth, ac i landlordiaid adfer meddiant o’r mangreoedd pan ddaw tenantiaeth o’r fath i ben.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1710 (Cy. 225) (C. 103)
TAI, CYMRU
LANDLORD A THENANT, cymru
Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015
Gwnaed 21 Medi 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 164(5) o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Cychwyn) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
Y diwrnod penodedig
2. 1 Hydref 2015 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym—
(a) adran 35 (eithrio busnesau cartref rhag Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954); a
(b) adran 36 (adran 35: darpariaeth atodol a chanlyniadol).
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2015